Helyntion Beca (Cymraeg/Welsh)

Illustrated London News: ‘The Welsh Rioters’, 11 Chwefror 1843
(ZPER 34/2)
Catalog/View details in our catalogue

Beth a ddigwyddodd yn ystod

Digwyddodd helyntion Beca yn ardaloedd gwledig gorllewin Cymru, gan gynnwys Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, rhwng 1839-1843. Yr oeddent yn gyfres o brotestiadau gan ffermwyr-denantiaid yn erbyn talu tollau a godwyd am ddefnyddio’r ffyrdd. Ymddiriedolaethau’r Tollbyrth neu grwpiau o ddynion busnes oedd piau y rhan fwyaf o’r ffyrdd mawr. Y dynion hyn oedd yn penderfynu pa dâl i’w godi a faint o dollbyrth i’w hadeiladu. Yn ystod yr helyntion, ymosodau dynion mewn gwisg merched ar y tollbyrth. Galwent eu hunain yn ‘Ferched Beca’. Mae hyn yn fwy tebygol o fod yn seiliedig ar hanes yn y Beibl lle mae Beca yn dweud bod angen ‘etifeddu pyrth eu gelynion’ (Genesis XXIV, pennod 60). Yr oedd pobl bryd hynny yn adnabod eu Beibl yn dda. Yr oedd tollau yn gost aruthrol i ffermwyr bach, a ddefnyddiai’r ffyrdd i fynd â’u cnydau â’u hanifeiliaid i’r farchnad, a hefyd i nôl calch. Arferid defnyddio calch i wella ansawdd y pridd fel y gallai ffermwyr dyfu cnydau gwell. Gallai gostio gymaint â phum swllt (25c) mewn tollau i gludo trol o galch wyth milltir. Nid oedd pobl gorllewin Cymru eisiau talu am defnyddio eu ffyrdd.


Tasks

1. Yr oedd y llythyr hwn wedi’i gyfeirio at drigolion Sanclêr ac eraill yn Sir Gaerfyrddin ym 1842.

  • Pam y mae awdur y llythyr yn ei lofnodi ‘Beca a’i Phlant’ yn lle rhoi ei enw ei hun?
  • Pam y caiff y cwnstabliaid rhanamser (‘y rhai a dyngodd lw i fod yn gwnstabliaid’) eu rhybuddio i gymryd sylw o’r llythyr hwn?
  • Pam y mae’r llythyr yn gwrthwynebu ‘Bowlin & Company’?
  • Beth yw agwedd yr awdur tuag at yr heddlu?
  • Sut y gallwn ni ddweud nad oedd y person a ysgrifennodd y llythyr hwn wedi derbyn addysg dda?
  • Sut y mae iaith y llythyr yn gwneud iddo ymddangos yn fygythiol?

2. Mae’r casglwr tollau yn disgrifio ymosodiad ar Dollborth Trefychan yn Awst 1843.

  • Pryd y digwyddodd yr ymosodiad ar y dollborth?
  • A ydych yn credu bod hwn yn debygol o fod yn dystiolaeth ddibynadwy? Rhowch eich rhesymau.
  • Pam tybiwch bod cefnogwyr Beca eisiau cael gafael ar lyfrau cyfrifon ceidwad y tolldy?
  • Pa bethau sy’n awgrymu bod yr ymosodiad wedi’i drefnu’n dda?
  • Sut y tybiwch y byddai William Rees wedi teimlo yn ystod yr ymosodiad hwn?

3. Edward Crompton Lloyd Hall, Uchel Siryf Ceredigion, yn cynnig cyngor i Beca a’i merched ym 1843.

  • Pam y mae Hall yn dweud wrth Beca a’i merched am beidio â chyfarfod â’i gilydd nos Fercher?
  • Pa gyngor y mae Hall yn ei roi i’r Cymry i gael pobl i wrando arnynt?
  • Sut y mae’r hysbyslen yn ceisio perswadio pobl i wrando? (Soniwch am: maint y testun, enwau ac ansoddeiriol cryf; arddull ysgrifennu Hall)
  • Pa wybodaeth y mae’r Ffynhonnell hon yn ei roi am agwedd yr awdurdodau tuag at Beca a’i merched?
  • Pam wnaeth Hall sicrhau bod yr hysbyslen yn cael ei hargraffu yn y Gymraeg a’r Saesneg?

4. Yr oedd George H. Ellis yn un o’r rhai a fu’n casglu tystiolaeth ar ddechrau’r ymchwiliad i gyflwr Ymddiriedolaethau’r Tollbyrth yng Nghymru, ac achosion yr helynt. Darllenwch y darnau isod. Sut y byddai ffermwyr yn teimlo am y pwyntiau a wneir gan Ellis

  • Pa bwynt y mae Ellis yn ei wneud?
  • Ymateb y ffermwyr?

Background

Cafwyd y digwyddiad cyntaf yn Sir Benfro ym mis Mai 1839 pan ddinistriwyd tollborth newydd yn Efailwen. Yr oedd y gât hon yn darged amlwg, am ei bod ar y ffordd a ddefnyddiwyd gan rai a gludai galch o’r arfordir. Ailgodwyd y gât gan Ymddiriedolaeth Tollbyrth Hendy-Gwyn, ond fe’i dinistriwyd drachefn ym mis Mehefin. Ymosodwyd ar ail dollborth newydd yn Llanboidy. Tawelodd yr helynt pan gytunodd yr awdurdodau i beidio ag ailgodi’r tollbyrth. Dechreuodd yr helyntion eto ym 1842 pan gododd Ymddiriedolaeth Hendy-Gwyn borth newydd wrth y Mermaid, ar y ffordd galch Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin. Dinistriwyd y gât ym mis Tachwedd, a’r tollbyrth ym Mhwll-trap a Threfychan hefyd. Ailgodwyd y gatiau, ond dinistriwyd yr holl byrth yn Sanclêr erbyn 12 Rhagfyr. Yr oedd y llywodraeth yn gwrthod anfon milwyr, felly penderfynodd yr ynadon alw ar longwyr o Ddoc Penfro a Marchfilwyr o Gastellmartin. Parhaodd yr helynt. Ym mis Mai 1843, dinistriwyd y tollbyrth yn Nghaerfyrddin ac, ym mis Mehefin, ceisiodd torf o 2000 losgi’r wyrcws yno yn ulw. Galwyd ar y milwyr wrth i’r helynt waethygu a dod yn fwy treisgar. Ym mis Awst, cafwyd helyntion am y tro cyntaf ym Morgannwg yn Llanelli. Ymosodwyd ar y tollbyrth ym Mhontarddulais a Llangyfelach. Ym mis Hydref, yn ystod helynt yn Nhollborth Hendy ger Abertawe, lladdwyd ceidwad y tolldy. Cafwyd ymosodiadau yng Ngheredigion ac yn Sir Faesyfed hefyd. Un o’r rhesymau dros helyntion Beca oedd y gorfodiaeth i dalu treth am ddefnyddio’r ffyrdd, ond yr oedd rhesymau eraill dros eu hanfodlonrwydd. Yr oedd poblogaeth Cymru wedi cynyddu ers dechrau’r 19eg ganrif. O ganlyniad bu cystadlu chwyrn am dir a gwaith, yr oedd diweithdra a thlodi wedi gwaethygu. Tyddynwyr oedd y rhan fwyaf o’r ffermwyr yn yr ardaloedd hyn, a dyfai ond digon i gynnal eu teuluoedd. Yr oeddent yn rhentu eu tir gan landlordiaid cefnog. Yr oedd y landlordiaid eisiau gwneud mwy o arian ac wedi dechrau lleihau nifer y tyddynnod a oedd ar gael i’w rhentu. Drwy wneud hyn, yr oeddent yn creu ffermydd llawer mwy ac yn gallu codi rhent llawer uwch amdanynt. Yr oedd incwm ffermwyr-denantiaid yn cael ei wasgu ymhellach drwy orfod talu’r degwm. Talwyd y degwm i gynnal eglwys y plwyf. Gwnaed y taliadau hyn mewn nwyddau, er enghraifft mewn cnydau neu wlân. Talwyd y degwm i Eglwys Loegr ym mhob plwyf yng Nghymru bron, unwaith y flwyddyn. Ym 1836, pasiwyd Deddf yn disodli’r taliad nwyddau gyda thaliad ariannol a gawsai ei benderfynu gan y ficer neu, weithiau, gan y landlord lleol. Gan fod 80% o boblogaeth gorllewin Cymru yn Anghydffurfwyr, yr oedd yn gas iawn ganddynt orfod talu degwm i eglwys nad oeddent yn perthyn iddi. Un o’r rhesymau eraill dros yr anghydfod oedd Deddf newydd y Tlodion a gyflwynwyd yng Nghymru a Lloegr ym 1834. Yr oedd y terfysgwyr yn ymosod ar dai wyrcws yn ogystal â thollbyrth. Golygai’r Ddeddf nad oedd cymorth (ariannol) mwyach yn cael ei roi i dlodion a oedd yn iach. Yn hytrach, yr oeddent yn cael eu gorfodi i fyw mewn wyrcws lle’r oedd yr amodau yn cael eu gwneud yn fwriadol galetach na’r amodau gwaethaf y tu allan (barn y llywodraeth oedd bod tlodi yn ganlyniad diogi neu gymeriad gwael). O ganlyniad i ddau gynhaeaf drwg ym 1837 a 1838, gwaethygodd y prinder a’r tlodi. Cafwyd cynhaeaf da ym 1842, ond collwyd y manteision gan ei bod yn flwyddyn o ddirwasgiad economaidd, felly ni allai gweithwyr diwydiannol fforddio â phrynu nwyddau amaethyddol. Ac yn olaf, yr oedd rhaniadau cymdeithasol aruthrol rhwng y dosbarth bonhedd (y tirfeddianwyr mawr) a’r tyddynwyr bach a’r gweision fferm a weithiai ar y tir. Yr oedd y boneddigion yn tueddu i fod yn perthyn i Eglwys Loegr ac yn siarad Saesneg. Yn aml iawn, yr oeddent yn ynadon lleol neu’n swyddogion Deddf y Tlodion neu’n perthyn i Ymddiriedolaethau’r Tollbyrth. Nhw oedd yn penderfynu ar dreth y tlodion, y tollau a’r degwm. Nid oedd ganddynt fawr ddim yn gyffredin â’r rhai a weithiai ar y tir ac yn aml yn gwneud penderfyniadau a oedd o fudd iddyn nhw yn unig. Yr oedd gweddill y boblogaeth yn siarad Cymraeg ac yn Anghydffurfwyr. Yn y diwedd, llwyddodd yr awdurdodau i drechu helyntion Beca, drwy ddefnyddio milwyr a grym llawn y gyfraith. Daliwyd rhai o’r terfysgwyr a’u dedfrydu i alltudiaeth. Newidiodd amodau cymdeithasol yn ystod y degawd hefyd. Llwyddwyd i wella’r cyfreithiau a reolai Ymddiriedolaethau’r Tollbyrth a, gyda dyfodiad y rheilffordd, esmwythwyd llawer ar y trafferthion cludo yng ngorllewin Cymru. Gallai pobl symud o gwmpas yn haws er mwyn dod o hyd i waith a helpodd hyn i leihau’r cystadlu am waith mewn ardaloedd gwledig. Pan ddaeth y Deddfau Yd i ben ym 1846, a gwnaed ymdrechion ym 1847 i wneud Deddf y Tlodion yn llai creulon, gwellodd y sefyllfa ymhellach.

Teachers' notes

Y Cwricwlwm Hanes Cenedlaethol – Lloegr

Gellir defnyddio’r llun hwn gyda disgyblion cyfnod allweddol 3 ym mlwyddyn 8. Mae’n edrych ar hanes helyntion Beca drwy gyfrwng tystiolaeth ar natur y Mudiad, profiad rhai o’r bobl a oedd yn rhan ohonynt ac ymateb yr awdurdodau. Cynlluniau Gwaith yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm: Cyfnod allweddol 3 uned 11: Newidiadau diwydiannol, gweithredu ac ymateb Adran 3: A oedd pawb yn cytuno gyda’r newidiadau diwydiannol? Gellir hefyd dilyn dolenni at: Cyfnod Allweddol 3 uned 16: Yr etholfraint Adran 3: Pwy oedd yn brwydro i gyflwyno newid gwleidyddol rhwng 1815 a 1848?

Y Cwricwlwm Hanes Cenedlaethol – Cymru

Llun yw hwn sy’n addas ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 3 sy’n astudio “Cymru ym Mhrydain ddiwyddiannol, 1760 – 1914″. Yr oedd trafnidiaeth yn rhan o’r chwyldro ddiwydiannol, ac arweiniodd at gyflwyno’r system tollbyrth ar y ffyrdd ac, yn y pen draw, at ddyfodiad y rheilffyrdd. Mae’r llun hwn yn edrych ar un ymateb i’r chwyldro cymdeithasol, economaidd a thechnolegol a weddnewidiodd Cymru yn y cyfnod hwn. Gellir hefyd dilyn dolenni at: Cyfnod Allweddol 4, Manyleb TGAU A & B Cydbwyllgor Addysg Cymru, sy’n golygu dewis opsiwn astudio manwl ar “Mudiadau Poblogaidd yng Nghymru a Lloegr, 1815-1845″. Mae’r llun yn rhoi sylw i Adran C: Protestiadau Gwledig.

Ffynonellau

Mae Ffynhonnell 1 yn rhoi tystiolaeth o amcanion a phryderon y Mudiad. Mae hefyd yn dangos y diffyg cyfle oedd yn bod i bobl a ddymunai brotestio – bu’n rhaid iddynt gelu pwy oeddent i osgoi cael eu dal. Mae’r dulliau a ddefnyddiai’r awdurdodau i reoli cymdeithas yn amlwg yn y Ffynhonnell hon. Mae Ffynhonnell 2 yn dangos yr hyn a ddigwyddodd yn ystod ymosodiad ar dollborth – a pham fod angen iddynt gelu pwy oeddent. Mae Ffynhonnell 3 yn datguddio llawer mwy am agwedd yr awdurdodau ac yn dangos eu bod yn cosbi pobl a ddaliwyd yn dinistrio tollbyrth a thai yn llym iawn (drwy eu halltudio). Mae Ffynhonnell 4 yn dangos tystiolaeth o gomisiwn yr ymchwiliad i gyflwr y ffyrdd yn ne Cymru ac, a arweiniodd at newid y gyfraith.

Mwy o weithgareddau

Trafodwch ar y rhesymau dros ac yn erbyn helyntion Beca. Perfformio drama / ymarfer rolau ar roi tystiolaeth i’r ymchwiliad i achosion helyntion Beca. Gellir cymryd y cymeriadau o’r Ffynonellau. Ysgrifennwch gerdd neu gân brotest am helyntion Beca.


Back to top