Rhoddir anogaeth i chi ddefnyddio ac ailddefnyddio’r Wybodaeth sydd ar gael dan y drwydded hon yn rhydd a hyblyg, gydag ychydig o amodau.

Defnyddio gwybodaeth dan y drwydded hon

Bydd defnyddio deunydd sydd dan hawliau hawlfraint a chronfa ddata sydd ar gael yn benodol dan y drwydded hon (y ‘Wybodaeth’) yn arwydd eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau isod.

Mae’r Trwyddedwr yn rhoi trwydded fyd-eang, heb freindal, hyd byth, nad yw’n cau dim allan i chi i ddefnyddio’r Wybodaeth i ddibenion Anfasnachol yn unig yn ddarostyngedig i’r amodau isod.

Nid yw’r drwydded hon yn effeithio ar eich rhyddid dan ddelio teg neu ddefnydd teg neu unrhyw eithriadau a chyfyngiadau hawliau deunydd hawlfraint neu gronfa ddata.

Mae gennych ryddid i:

  • gopïo, cyhoeddi, dosbarthu a darlledu’r Wybodaeth;
  • addasu’r Wybodaeth;
  • cyfuno’r Wybodaeth gyda gwybodaeth arall.

Ni chaniateir i chi:

  • arfer unrhyw rai o’r hawliau a roddir i chi dan y drwydded hon mewn unrhyw fodd sydd wedi ei bwriadu’n bennaf ar gyfer neu wedi ei chyfeirio tuag at fantais fasnachol neu iawndal ariannol preifat.

Mae’n rhaid i chi, pan fyddwch yn gwneud unrhyw un o’r uchod:

  • gydnabod ffynhonnell yr Wybodaeth yn eich cynnyrch neu becyn trwy gynnwys neu gysylltu ag unrhyw ddatganiad priodoli a nodwyd gan Ddarparwr(wyr) yr Wybodaeth a, phan fydd hynny’n bosibl, roi dolen i’r drwydded hon;

    Os nad yw’r Darparwr Gwybodaeth yn darparu datganiad priodoli penodol, neu os ydych chi’n defnyddio Gwybodaeth gan nifer o Ddarparwyr Gwybodaeth ac aml briodoleddau yn ymarferol yn eich cynnyrch neu becyn, gallwch ddefnyddio’r canlynol:

    Yn cynnwys gwybodaeth a drwyddedwyd dan Drwydded Llywodraeth Anfasnachol v1.0.

  • sicrhau bod unrhyw drwyddedu ymlaen o’r Wybodaeth – er enghraifft o gyfuno â gwybodaeth arall – ar gyfer dibenion Anfasnachol yn unig.
  • sicrhau nad ydych yn defnyddio’r Wybodaeth mewn modd sy’n awgrymu unrhyw statws swyddogol na bod y Darparwr Gwybodaeth yn eich cefnogi chi na’ch defnydd o’r Wybodaeth;
  • sicrhau nad ydych yn camarwain eraill neu’n camddehongli’r Wybodaeth na’i ffynhonnell;
  • sicrhau nad yw’ch defnydd o’r Wybodaeth yn mynd yn groes i'r Ddeddf Diogelu Data 1998 na’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb CE) 2003.

Mae’r rhain yn amodau pwysig i’r drwydded hon ac os na fyddwch yn cydymffurfio â nhw neu’n defnyddio’r wybodaeth ar wahân i ar gyfer materion Anfasnachol, bydd yr hawliau a roddir ichi dan y drwydded, neu unrhyw drwydded debyg a roddir gan y Trwyddedwr, yn dod i ben yn awtomatig.

Eithriadau

Nid yw’r drwydded hon yn cynnwys defnydd o:

  • ddata personol yn yr Wybodaeth;
  • Gwybodaeth sydd heb ei chyhoeddi na’i datgelu dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth (gan gynnwys y Deddfau Rhyddid Gwybodaeth i’r Deyrnas Unedig a’r Alban) gan neu gyda chaniatâd y Rhoddwr Gwybodaeth;
  • logos adrannol neu sector cyhoeddus, arwyddeiriau, arfbeisiau ac Arfbeisiau Brenhinol ac eithrio pan fyddant yn rhan ganolog o ddogfen neu set o ddata;
  • hawliau trydydd parti nad oes gan y Darparwr Gwybodaeth hawl i’w trwyddedu;
  • Gwybodaeth sy’n destun hawliau eiddo deallusol eraill, gan gynnwys patentau, nodau masnach, a hawliau dyluniad; a
  • dogfennau adnabod fel Pasbort Prydeinig.

Dim gwarant

Mae’r Wybodaeth yn cael ei thrwyddedu ‘fel y mae’ ac mae’r Darparwr Gwybodaeth yn eithrio pob cyflwyniad, gwarant, rhwymedigaeth ac atebolrwydd yng nghyswllt yr Wybodaeth i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith.

Nid yw’r Darparwr Gwybodaeth yn atebol am unrhyw wallau neu ddiffygion yn yr Wybodaeth ac ni fydd yn atebol am unrhyw golled, anaf na niwed o unrhyw fath a achosir trwy ei defnyddio. Nid yw’r Darparwr Gwybodaeth yn gwarantu y bydd yr Wybodaeth yn parhau i gael ei chyflenwi.

Cyfraith Lywodraethol

Mae’r drwydded yn cael ei rheoli gan gyfreithiau’r awdurdodaeth lle mae prif fan busnes y Darparwr Gwybodaeth, oni nodir yn wahanol gan y Darparwr Gwybodaeth.

Diffiniadau

Yn y drwydded hon, mae gan y termau isod yr ystyron canlynol:

Mae ‘Gwybodaeth’
yn golygu gwybodaeth a ddiogelir gan hawlfraint neu gan hawl cronfa ddata (er enghraifft, gweithiau llenyddol a chelfyddydol, cynnwys, data a chod ffynhonnell) a gynigir i’w defnyddio dan delerau’r drwydded hon.

Mae ‘Darparwr Gwybodaeth’
yn golygu’r unigolyn neu sefydliad sy’n darparu’r Wybodaeth dan y drwydded hon.

Mae ‘Trwyddedwr’
yn golygu unrhyw Ddarparwr Gwybodaeth sydd â’r awdurdod i gynnig Gwybodaeth dan amodau’r drwydded hon neu Reolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, sydd â’r awdurdod i gynnig Gwybodaeth yn ddarostyngedig i hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata’r Goron a Gwybodaeth sy’n ddarostyngedig i hawl hawlfraint a chronfa ddata sydd wedi ei aseinio i’r Goron neu wedi ei gaffael gan y goron dan delerau’r drwydded hon.

Mae ‘Dibenion anfasnachol’
yn golygu nad yw wedi ei fwriadu ar gyfer na’i gyfeirio tuag at fantais fasnachol nac iawndal ariannol preifat. I ddibenion y drwydded hon, nid yw ‘iawndal ariannol preifat’ yn cynnwys cyfnewid Gwybodaeth ar gyfer unrhyw waith hawlfraint arall trwy rannu ffeiliau digidol nac fel arall ar yr amod nad oes taliad o unrhyw iawndal ariannol yng nghyd-destun cyfnewid yr Wybodaeth.

Mae ‘defnydd’
fel berf yn golygu cyflawni unrhyw weithred a gyfyngir gan hawl hawlfraint neu gronfa ddata, boed yn y cyfrwng gwreiddiol neu yn unrhyw gyfrwng arall, ac yn cynnwys heb gyfyngiad dosbarthu, copïo, addasu, neu gyfaddasu fel gall fod yn angenrheidiol i’w ddefnyddio mewn modd neu fformat gwahanol.

Mae ‘chi’ ac ‘eich’
yn golygu’r unigolyn naturiol neu gyfreithiol, neu gorff o unigolion trwy gorfforaeth neu ymgorfforaeth, sy’n cael hawliau dan y drwydded hon.

Ynghylch y Drwydded hon

Datblygodd Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO) y drwydded hon fel offeryn i alluogi Darparwyr Gwybodaeth yn y sector cyhoeddus i drwyddedu’r defnydd ac ailddefnydd o’u Gwybodaeth dan drwydded gyffredin anfasnachol. Mae’r Rheolwr yn gwahodd cyrff sector cyhoeddus sydd â’u hawliau hawlfraint a chronfa ddata eu hunain i ganiatáu’r defnydd o’u Gwybodaeth dan y drwydded hon ble nad yw trwyddedu dan Drwydded Llywodraeth Agored ddiofyn yn briodol.

Mae gan Reolwr HMSO awdurdod i drwyddedu Gwybodaeth sy’n ddarostyngedig i hawl hawlfraint a hawl cronfa ddata sy’n eiddo i’r Goron.

Hon yw fersiwn 1.0 o’r Drwydded Llywodraeth Anfasnachol. Gall Rheolwr HMSO, o dro i dro, gyhoeddi fersiynau newydd o’r Drwydded Llywodraeth Anfasnachol. Fodd bynnag, gallwch ddal i ddefnyddio’r Wybodaeth a drwyddedwyd dan y fersiwn hon os dymunwch.

Gellir gweld rhagor o gyd-destun, yr arfer gorau a chyfarwyddyd yn adran Fframwaith Trwyddedu Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar wefan yr Archifau Gwladol.

Go to the Latest version of the licence.